Trosolwg o’r Hybiau Llesiant

Adeiladu cyfleusterau gofal sylfaenol sy’n addas i’r diben i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol.

SOFWitC Website

Hybiau Llesiant yw gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer dyfodol Gofal Sylfaenol yng Nghaerdydd a’r Fro.

Byddant yn helpu i ddarparu llwybrau a modelau newydd i hyrwyddo lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r trydydd sector.

Gan hyrwyddo lles ac atal achosion, mae Hybiau Llesiant yn caniatáu mynediad lleol at wasanaethau ac yn cael eu datblygu a’u harwain gan y gymuned, i feithrin ysbryd cymunedol cryf. Maent yn amgylchedd croesawgar i bawb, sy’n ymgorffori gwerthoedd cydweithio, gofal a pharch.

Cwestiynau Cyffredin

Mae Hyb Llesiant yn gyfleuster iechyd a lles integredig sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae’n rhoi mynediad i bobl at ofal sylfaenol (er enghraifft meddygon, ffisiotherapyddion ac optometryddion) ac ystod ehangach o wasanaethau iechyd, gofal a lles yn y gymuned.

Nid yw’n disodli gwasanaethau meddygon teulu, ond yn darparu gwasanaethau yn y gymuned a fyddai fel arfer yn cael eu darparu mewn ysbytai. Gallai’r gwasanaethau hyn gynnwys gwasanaethau mamolaeth, diagnosteg, ffisiotherapi a gwasanaethau cleifion allanol eraill. Maent yn ein galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau yn agosach at y cartref.

Mae Hybiau Llesiant yn rhan o’n cynnig i wella seilwaith i ddarparu cyfleoedd helaethach ac ehangu’r hyn a gynigir.

Gall Hybiau Llesiant ddarparu’r canlynol:

  • Gwasanaethau Meddygon Teulu
  • Gwybodaeth, cyngor ac addysg ynghylch iechyd a lles
  • Clinigau iechyd cymunedol e.e. nyrsio ardal, iechyd plant, iechyd rhywiol, podiatreg, deieteg ac ati
  • Gwasanaethau bydwreigiaeth cymunedol
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol
  • Gwasanaethau cleifion allanol penodol i fodloni blaenoriaethau iechyd
  • Gofal cymdeithasol a darpariaeth trydydd sector/grŵp cymunedol
  • Gwasanaethau eraill wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion penodol y gymuned leol

Gall unrhyw un yn yr ardal ddefnyddio Hybiau Llesiant, o ba bynnag feddygfa.

Skip to content