Hyb Lles @ Parkview

Dod â chyfleusterau gofal sylfaenol addas i’r diben i Trelái a Chaerau

SOFWitC Website

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn bwriadu adeiladu Hyb Lles integredig newydd yng nghanol eich cymuned.

 Bydd yr adeilad aml-lawr newydd yn rhan o’r Hyb Trelái a Chaerau presennol gan greu un adeilad integredig. Bydd yn gwella’r holl wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr hyb ac yn darparu gwasanaethau, lles a chymunedol ychwanegol gan gynnwys:

  •  Eich Meddyg Teulu
  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
  • Iechyd Rhywiol
  • Deietegwyr
  • Clinig Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
  • Clinig Clwyfau Cymunedol
  • Ystafell Triniaeth Nyrsys Ardal
  • Podiatrydd (traed)
  • Clinig Ymataliaeth
  • Gwasanaethau Anableddau Dysgu
  • Clinig Dim Smygu Cymru
  • Ystafelloedd Grŵp Lles
  • Caffi Cymunedol
  • Canolfan gwybodaeth a chyngor
  • Gwasanaethau Bydwreigiaeth ac Ymwelwyr Iechyd
  • Therapi Lleferydd ac Iaith

Mae Llunio ein Lles i’r Dyfodol: Yn Ein Cymuned yn rhaglen sy’n ceisio darparu gwell mynediad at wasanaethau cymunedol a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws Caerdydd a’r Fro. Mae Hybiau Lles yn cael eu dylunio a’u darparu drwy’r rhaglen hon.

Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn cael ei ddarparu mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd a bydd yn golygu bod gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i’r Hyb Trelái a Chaerau presennol. Bydd hyn yn galluogi ehangu’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor, gan gynnwys caffi newydd, ardal llyfrgell, ystafelloedd lles defnydd a rennir a mynedfa groesawgar sengl newydd sy’n cysylltu ac yn integreiddio’r gwasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, partneriaid a’r Cyngor. Bydd ein partneriaid yn darparu gwasanaethau am ddim i’r gymuned, gan rymuso dinasyddion i reoli eu hiechyd a’u lles yn well. Bydd y man agored wrth ymyl yr adeilad newydd hefyd yn cael ei wella a bydd ardal chwarae newydd i blant yn cael ei darparu.

  • Sicrhawyd caniatâd cynllunio amlinellol ym mis Ebrill 2023 ac mae cytundebau cyfreithiol yn cael eu llofnodi.
  • Mae tîm prosiect, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, clinigwyr a phartneriaid sy’n eudarparu, yn gweithio ar y dyluniad manwl o sut y bydd yr adeilad yn gweithio ac yn edrych y tu mewn.
Skip to content