Llunio Ein
Llesiant i'r
Dyfodol

Strategaeth 2023-2035 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd
Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn helpu i wella bywydau fel bod pobl erbyn 2035 yn iachach a bod gwahaniaethau annheg o ran canlyniadau iechyd yn cael eu lleihau. Bydd y gofal rydym yn ei ddarparu i bobl sydd angen ein gwasanaethau a’r rheiny sy’n darparu’r gwasanaethau yn rhagorol, gyda chanlyniadau a phrofiadau i bawb sy’n cymharu’n dda â’r sefydliadau cymheiriaid sy’n perfformio orau.

Rydym yn cefnogi poblogaeth gofrestredig o 534,756
Rydym yn cyflogi 17,232 o bobl yn y Bwrdd Iechyd
Cafodd 89% o bobol brofiad da gyda gwasanaeth y Bwrdd Iechyd
Ein Gwerthoedd

- Rydym yn garedig ac yn ofalgar
- Rydym yn barchus
- Rydym yn meddu ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Rydym yn cymryd cyfrifoldeb personol