Llunio ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol

Sicrhau bod ein gwasanaethau yn addas at y diben ac yn parhau i ddiwallu anghenion y poblogaethau a wasanaethwn

SOF-RGB_Clinical-Icon

Wrth i boblogaeth Caerdydd a’r Fro barhau i dyfu, mae’n dod yn bwysicach bod y Bwrdd Iechyd yn datblygu modelau gofal newydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n grymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn gyfrifol.

Mae Llunio Ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol yn ceisio datblygu modelau gwasanaeth newydd sy'n integreiddio gofal ac yn darparu canlyniadau sy'n arwyddocaol i'r unigolyn. Byddwn yn gwneud hyn drwy wrando ar yr hyn sydd bwysicaf i’r poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu.

Fel rhan o'n huchelgais i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd, mae angen i'n holl raglenni gynnwys dulliau atal ac ymyrraeth gynnar.

Wrth inni edrych at ddyfodol ein system gofal iechyd, nid opsiwn yw’r angen am newid, ond rheidrwydd. Mae'r model traddodiadol o ofal iechyd sy'n canolbwyntio ar ysbytai yn anghynaliadwy.

Helpwch ni i lunio ein gwasanaethau clinigol i’r dyfodol drwy roi eich barn i ni heddiw.

Ailgynllunio Gwasanaethau Pediatrig

Diwedd: 11 Awst

Skip to content