Gweithredu
dros y Dyfodol

Sicrhau nad yw’r hyn a wnawn heddiw yn peryglu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn diogelu’r amgylchedd ac yn datblygu ac yn defnyddio technolegau, triniaethau a thechnegau newydd i ddarparu’r canlyniadau iechyd gorau posibl a gofal iechyd cynaliadwy i’r dyfodol.

Fel sefydliadau gofal iechyd eraill, mae gennym ôl troed carbon mawr - sy’n cyfateb i holl aelwydydd y Barri. Byddwn yn cymryd camau brys i leihau allyriadau carbon y Bwrdd Iechyd a diogelu’r amgylchedd, gan greu a hyrwyddo mannau gwyrdd sy’n cefnogi byw’n iach a theithio llesol a chynaliadwy.

Mae gweithredu ar gyfer y dyfodol hefyd yn golygu sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn gofal iechyd trwy gydweithio â phartneriaid prifysgol a diwydiant i gyflymu datblygiad a mabwysiadu triniaethau newydd, cynyddu gweithgareddau ymchwil ac arloesi clinigol er budd gwell canlyniadau i gleifion a gofal iechyd cynaliadwy.

Byddwn hefyd yn defnyddio adnoddau a phŵer prynu sylweddol y Bwrdd Iechyd er budd yr economi leol yn ne Cymru, gan greu swyddi gwerth uchel, cefnogi busnesau lleol a denu ewnfuddsoddiad ac, fel sefydliad angor mawr, cyfrannu at dwf economaidd yn y rhanbarth. Fel darparwr gwasanaethau arbenigol iawn, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddatblygu a darparu triniaethau newydd sy’n hyrwyddo gofal iechyd ac yn cyfrannu at y canlyniadau gorau i gleifion. Mae ein hymchwil yn cefnogi darparu gofal rhagorol, gyda mwy o bobl yn cymryd rhan mewn treialon ar gyfer triniaethau a thechnolegau newydd.

Ein targedau:

Erbyn 2030 byddwn wedi lleihau ôl troed carbon y Bwrdd Iechyd 34%

Ein nod yw sicrhau statws carbon niwtral erbyn 2035

Byddwn yn anelu at gynnydd o lwyddyn i flwyddyn yn y canlynol:nifer y treialon clinigol sydd ar agor a, nifer y cleifion cymwys sy’n cymryd rhan

Skip to content