Hyb Llesiant @ Trelái

Dod â chyfleusterau gofal sylfaenol addas i’r diben i Trelái a Chaerau

SOFWitC Website

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn adeiladu Hyb Llesiant integredig newydd yng nghanol eich cymuned

 Bydd yr adeilad aml-lawr newydd yn rhan o’r Hyb Trelái a Chaerau presennol gan greu un adeilad integredig. Bydd yn gwella’r holl wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr hyb ac yn darparu gwasanaethau, lles a chymunedol ychwanegol gan gynnwys:

  •  Eich Meddyg Teulu
  • Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol
  • Iechyd Rhywiol
  • Deietegwyr
  • Clinig Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
  • Clinig Clwyfau Cymunedol
  • Ystafell Triniaeth Nyrsys Ardal
  • Podiatrydd (traed)
  • Clinig Ymataliaeth
  • Gwasanaethau Anableddau Dysgu
  • Clinig Dim Smygu Cymru
  • Ystafelloedd Grŵp Lles
  • Caffi Cymunedol
  • Canolfan gwybodaeth a chyngor
  • Gwasanaethau Bydwreigiaeth ac Ymwelwyr Iechyd
  • Therapi Lleferydd ac Iaith

Y Newyddion Diweddaraf

Cadwch lygad ar gynnydd Hyb Llesiant Trelái drwy ddarllen ein cylchlythyr diweddaraf:

Mae Hyb Llesiant @ Trelái yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd, Cyngor Caerdydd, Partneriaeth Afon Elai a rhanddeiliaid lleol allweddol eraill, gan gynnwys Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, a grwpiau cymunedol lleol. Bydd y bartneriaeth hon yn darparu gofal ataliol, cymunedol, sylfaenol ac eilaidd ac yn annog cyd-gynhyrchu, gwirfoddoli ac ymgyrchoedd cymdeithasol er lles iechyd.

Mae integreiddio â gwasanaethau lleol eraill yn rhoi mynediad i’r gymuned at ofal cleifion o ansawdd uchel ac yn helpu i wella iechyd a lles poblogaeth Gorllewin Caerdydd.

Mae’r Hyb Llesiant newydd yn cael ei adeiladu i mewn i Hyb Cymunedol @ Trelái presennol Cyngor Caerdydd. Trwy fod yn gysylltiedig a rhannu’r gofod, mae’n darparu gwasanaethau iechyd a chymunedol a gwasanaeth amlswyddogaethol i gleifion, staff a’r gymuned leol.

Mae Hyb Llesiant @ Trelái yn rhan o gyfres o hybiau sy’n sicrhau bod cyfle person o fyw bywyd iach yr un fath lle bynnag y mae’n byw a phwy bynnag ydyw.

Hyb Llesiant @ Trelái yw’r ail i gael ei ddatblygu fel rhan o raglen strategol sy’n gosod y gymuned yn y canol. Bydd ein hymroddiad i brofiadau cleifion, gofalwyr a’r gymuned yn cael ei gryfhau drwy weithio gyda’n partneriaid ar draws y GIG, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Rydym yn hyderus y bydd yr Hybiau Llesiant yn cefnogi ein dinasyddion i fyw bywydau hirach, iachach ac o ansawdd gwell.

Skip to content