Rhoi pobl
yn Gyntaf
Byddwn yn lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo, lle rydym yn gwrando ar bobl a’u grymuso i fyw bywydau iach.
Mae pobl sy’n cael eu cefnogi i fyw’n iach, wedi’u galluogi gan amgylcheddau iach a chefnogol, yn allweddol i gyflawni gweledigaeth y Bwrdd Iechyd.
Mae hyn yn golygu bod gan bawb yr wybodaeth, y cyfle a’r gefnogaeth i ymddwyn yn iach ar bob cam o’u bywyd – o gael dechrau da adeg eu geni ac yn ystod plentyndod, i fyw’n dda fel oedolyn ac wrth i ni fynd yn hŷn - a gwybod ble y gallant ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt.
Fel cyflogwr mawr i bobl leol a darparwr ystod eang o wasanaethau gofal iechyd, ein nod yw denu a chadw’r bobl orau; pobl sy’n cynnal ein gwerthoedd, yn ymdrechu i wella gwasanaethau’n barhaus ac yn datblygu eu sgiliau’n barhaus.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod cydweithwyr yn cael eu cefnogi i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg.