Darparu mwy o ofal yn nes at y cartref: dweud eich dweud
Rydym yn gofyn i bobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg rannu eu barn wrth i ni edrych ar sut mae angen i wasanaethau iechyd a gofal newid ar gyfer y dyfodol.

Mae'r ffordd y mae angen gofal iechyd ar bobl yn newid. Mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau hirdymor, mae gan lawer o gleifion anghenion cynyddol gymhleth, ac mae'r galw am ofal iechyd yn parhau i dyfu. Ar yr un pryd, mae ein gwasanaethau'n wynebu pwysau sylweddol o ran y gweithlu a'r gyllideb.
Mae'r ffordd y mae angen gofal iechyd ar bobl yn newid. Mae mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau hirdymor, mae gan lawer o gleifion anghenion cynyddol gymhleth, ac mae'r galw am ofal iechyd yn parhau i dyfu. Ar yr un pryd, mae ein gwasanaethau'n wynebu pwysau sylweddol o ran y gweithlu a'r gyllideb.
Hoffem helpu pobl i aros yn iach am hirach a, phan fyddant angen gofal, sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gofal iawn, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.
I lawer o bobl, gallai hyn olygu derbyn mwy o ofal yn nes at y cartref, drwy wasanaethau cymunedol neu, lle bo'n ddiogel ac yn briodol, yn eu cartrefi eu hunain. Bydd ysbytai yn parhau i chwarae rhan hanfodol, yn enwedig i bobl sy'n ddifrifol wael neu sydd angen gofal brys, acíwt neu arbenigol.
Datblygu model gofal mwy integredig
Mae ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn darparu fframwaith ar gyfer trawsnewid gofal. Mae’n dod â’n gwaith at ei gilydd o amgylch tair blaenoriaeth:
- Creu capasiti ar gyfer newid cynaliadwy: gwneud y defnydd gorau o’n hamser, ein gofod a’n hadnoddau.
- Newid y galw am ofal iechyd: gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i atal afiechyd, lleihau anghydraddoldebau a helpu pobl i aros yn iach yn hirach.
- Dylunio i gyflawni: sicrhau bod ein gwasanaethau, ein gweithlu, ein technoleg a’n hadeiladau yn cefnogi gofal diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
Gyda’i gilydd, mae’r blaenoriaethau hyn yn cefnogi model gofal mwy integredig, gyda gwasanaethau ysbyty, cymunedol a gofal sylfaenol yn cydweithio’n agosach o amgylch anghenion cleifion. Mae darparu mwy o ofal yn nes at y cartref, lle bo’n ddiogel ac yn briodol, yn rhan bwysig o’r dull hwn.
Nid yw hyn yn ymwneud â symud gwasanaethau presennol allan o’r ysbyty yn unig. Mae’n ymwneud ag edrych ar daith gyfan y person drwy ein gwasanaethau ac ystyried sut y gallwn atal afiechyd, darparu cymorth yn gynharach, ei gwneud hi’n haws i gael mynediad at ofal a chefnogi pobl i aros yn annibynnol.
Rydym eisoes yn datblygu gwasanaethau sy’n cefnogi’r dull hwn, gan gynnwys gofal ar yr un diwrnod, cymorth arbenigol cynharach i bobl sy’n byw gydag eiddilwch, Gofal Clyfar Rhithwir yng nghartrefi pobl, gofal diwedd oes mwy cefnogol a phersonol, a chynllunio ar gyfer rhyddhau wedi’i gydlynu’n well.
Wrth i’r model hwn ddatblygu, gall ble a sut y darperir rhai gwasanaethau newid hefyd. Gallai hyn olygu mwy o ddefnydd o wasanaethau yn y gymuned a’r gymdogaeth, mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol, gwahanol ffyrdd i dimau gofal iechyd gydweithio, a newidiadau i sut rydym yn defnyddio ein hysbytai ac adeiladau eraill.
Mae’r egwyddor y tu ôl i hyn yn syml: dylid trefnu gofal o amgylch anghenion pobl, yn hytrach nag o amgylch adeiladau neu ffiniau sefydliadol.
Gwrando ar ein cymunedau
Rydym yn gwybod bod newidiadau i wasanaethau gofal iechyd yn bwysig i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Derbyniwyd mwy na 3,500 o ymatebion yn ystod yr ymgysylltu ar ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol rhwng Awst a Rhagfyr 2025. Roedd yr adborth yn cefnogi gofal cydgysylltiedig gwell yn nes at y cartref, lle bo’n briodol yn glinigol, ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol cryfach a dewisiadau amgen hygyrch yn lle derbyniadau i’r ysbyty. Rydym nawr eisiau parhau â’r sgwrs honno.
Bydd cyfnod o 12 wythnos o ymgysylltu â’r cyhoedd wedi’i dargedu yn rhoi cyfle i bobl rannu eu barn a’n helpu i ddeall beth allai newidiadau posibl ei olygu i gleifion, teuluoedd a chymunedau.
Dweud eich dweud
Rydym yn gofyn i bobl gwblhau ein harolwg ymgysylltu a dweud wrthym beth sydd bwysicaf iddyn nhw.
Yn benodol, hoffem glywed barn pobl am:
- hyder mewn gwasanaethau cymunedol
- y gefnogaeth y mae pobl yn ei derbyn ar ôl gadael yr ysbyty
- profiadau a phryderon gofalwyr di-dâl · anghenion pobl hŷn, pobl sy’n byw gydag eiddilwch a phobl sy’n byw ar eu pen eu hunain
- yr hyn y dylem ei fonitro i wneud yn siŵr bod newidiadau’n cael eu cyflwyno’n ddiogel ac yn cyflawni’r canlyniadau cywir.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 3 Chwefror 2027.
Os byddai’n well gennych gopi papur o’r cwestiynau, neu os hoffech chi rannu eich barn drwy siarad â ni, anfonwch e-bost at CAV.engagement.cav@wales.nhs.uk.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn parhau i wrando wrth i’n cynlluniau ddatblygu a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn rydyn ni wedi’i glywed a sut mae adborth yn dylanwadu ar ein cynigion a’n penderfyniadau.
Lle bo angen ymgysylltu neu ymgynghori ffurfiol ar gynigion unigol, bydd y prosesau hynny’n parhau i ddigwydd. Nid yw’r ymgysylltiad hwn yn disodli unrhyw ymgysylltiad neu ymgynghoriad statudol a allai fod ei angen yn y dyfodol.
Ein huchelgais yw creu system iechyd a gofal fwy cydgysylltiedig sy’n helpu pobl i aros yn iach, yn darparu mwy o ofal yn nes at y cartref lle bo’n briodol, ac yn sicrhau bod gan ein hysbytai’r capasiti a’r arbenigedd i ofalu am y rhai sydd eu hangen fwyaf.
