Y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Llunio Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol, Gyda’n Gilydd

SOF-RGB_Clinical-Icon

Mae ein Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn pennu’r weledigaeth a'r cyfeiriad hirdymor ar gyfer gwasanaethau clinigol a ddarperir ar draws BIP Caerdydd a'r Fro hyd at 2035.

Bydd ein Cynllun yn creu model gofal integredig, sengl er mwyn cyflawni ein gweledigaeth:

Erbyn 2035, byddwn yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael ei alluogi'n ddigidol yn nes at y cartref, gan ddarparu gwasanaethau mwy teg a chynaliadwy, sy'n dechrau gyda ffocws clir ar atal.

Byddwn yn gwneud hyn drwy feithrin gallu gyda'n partneriaid, wedi'i lywio gan ymchwil ac arloesi, i ddiwallu anghenion pobl.

Mae ein model gofal yn cynnwys pedwar parth gofal cydberthynol. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn cwmpasu ein holl wasanaethau ac yn diwallu anghenion ein holl boblogaeth. Mae'n wahanol i'r disgrifiad traddodiadol o ofal fel cyfres o sectorau clinigol ac arbenigeddau.

Y cynllun hwn yw un o'r cynlluniau strategol pwysicaf i’r Bwrdd Iechyd ac mae'n llywio blaenoriaethau, prosesau gwneud penderfyniadau, newidiadau i fuddsoddiad a phartneriaethau ar draws ein system iechyd.

Y Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Adroddiad Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Skip to content