Cardiff and Vale University Health Board Logo

Adnewyddu ein strategaeth

Cardiff and Vale University Health Board Logo
Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2023, cafodd y cyhoedd, cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eu gwahodd i gymryd rhan mewn proses ymgynghori i lywio strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am y deng mlynedd nesaf.  Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau wedi’u hwyluso, wyneb yn wyneb ac ar-lein, ochr yn ochr â’n harolwg ar-lein a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd.  

Diolch i bawb a gymerodd ran yn Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol. Mae’r adborth hwn yn cael ei gasglu a’i adolygu ar hyn o bryd, wrth i waith ddechrau ar ddatblygu’r strategaeth newydd. Byddwn yn diweddaru’r wefan hon wrth i’r broses symud ymlaen ac mae croeso i chi gofrestru ar gyfer ein diweddariadau e-bost isod.
A trio of medical professionals from CAVUHB

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau e-bost ar waith ymgysylltu

Os hoffech dderbyn diweddariadau e-bost am waith ymgysylltu ac ymgynghori yn y dyfodol gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio. Byddwn ond yn anfon e-byst atoch ynglŷn â’r pwnc hwn, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd. Trwy gofrestru byddwch yn derbyn diweddariadau allweddol a gwahoddiadau i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymgysylltu a fydd yn llunio sut olwg sydd ar ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Llinell Amser

Ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid allweddol - Chwefror - Mawrth 2023
Sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd - Mawrth 2023
Adolygu adborth a datblygu’r strategaeth - Ebrill - Mehefin
Lansio’r strategaeth ar ei newydd wedd – Haf 2023

Noder: Mae’r amserlenni hyn yn rhai bras a gallant newid.

Y Daith Hyd Yn

Lansiwyd Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ein strategaeth ddeng mlynedd bresennol, yn ôl yn 2015, yn dilyn ei datblygu gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.

Mae’r strategaeth yn rhoi cyd-destun i bopeth a wnawn a’i nod sylfaenol yw ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd amlwg sy’n bodoli ar draws y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a darparu’r gwasanaethau gofal iechyd gorau oll. Rydym yn gweithio gydag ystod ehangach o bartneriaid sy’n holl bwysig i wireddu ein huchelgeisiau. Mae ein strategaeth yn hanfodol i’n cefnogi i gyflawni ein cenhadaeth ‘gofalu am bobl a chadw pobl yn iach’.

Rydym yn prysur nesáu at ddiwedd ein strategaeth Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol. Yn ogystal, mae’r Bwrdd Iechyd dan straen sylweddol, wedi’i ddwysáu gan effeithiau’r pandemig. Mae nawr yn gyfnod tyngedfennol wrth i ni geisio mynd i’r afael â heriau uniongyrchol a heriau sydd ar ddod.

Rydym yn ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad, yn ogystal â rhai o’n rhanddeiliaid allweddol, i ddechrau datblygu ein strategaeth ar ei newydd wedd. Byddwn yn cynnal llawer o weithdai a digwyddiadau i gasglu cymaint o adborth â phosibl.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, rydym yn darparu sbectrwm llawn o wasanaethau i’n poblogaeth leol, yn ogystal â bod yn brif ddarparwr gwasanaethau arbenigol yn ein rhanbarth. Rydym yn wynebu nifer o heriau o ran sut rydym yn darparu gwasanaethau iechyd, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

Rydym wedi cyflawni llawer o’r camau gweithredu a nodwyd gennym yn Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol, ond mae angen inni bwyso a mesur yr hyn sydd wedi newid, adolygu ein blaenoriaethau a gosod y camau gweithredu allweddol y mae angen inni eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf i gyflawni’r gwelliant a’r trawsnewid gofynnol.

Cwestiynau a ofynnir yn aml

    • Bydd yn ein helpu i fynd i’r afael â phroblemau nawr ac yn y dyfodol
    • Mae’r byd heddiw yn edrych yn wahanol iawn i’r adeg pan grëwyd y cynllun
    • Mae gofal iechyd yn cyfrannu at newid hinsawdd
    • Mae Gwasanaethau Cyhoeddus eraill yn diweddaru eu cynlluniau
    • Rydym am ddarparu’r gofal gorau i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau
  • Mae’n rhoi gweledigaeth gyffredin i ni gyda nodau a blaenoriaethau
  • I nodi beth sy’n bwysig i ni yn y 10 mlynedd nesaf
  • I’n helpu ni i flaenoriaethu’r meysydd yr ydym am eu gwella a’u newid
  • I helpu pobl i ddeall beth yw eu rôl nhw a sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd
    • Mae gofal iechyd yn cyfrannu tua 20% at ein hiechyd.
    • Ffyrdd o fyw, elfennau cymdeithasol ac amgylcheddol yw’r ffactorau sy’n ffurfio’r 80% sy’n weddill.​

Infographic showing that socioeconomic factors contribute 40% to health including education, job status, family and social support, income and community safety. Your physical environment contributes 10% to your health. Your health-related behaviours contribute 30% to your health including tobacco use, diet and exercise, alcohol intake and sexual activity. And your access to health care and quality of health care contributes to 20% of your health.