Ar draws 8 maes: Ynni; Gwastraff a Bwyd; Dŵr; Caffael; Pobl; Bioamrywiaeth Seilwaith Gwyrdd yr Amgylchedd Adeiledig; Trafnidiaeth; Clinigol – gwnaethom nodi nifer o gamau gweithredu roeddem yn gobeithio eu cyflawni. Yn ystod y flwyddyn ers drafftio ein cynllun mae rhai o’r prif gyflawniadau’n cynnwys:
Roedd y cynllun gweithredu yn heriol i ni, ond os na fyddwn yn newid, ni allwn wneud y cynnydd iawn tuag at Sector Cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Rydym wedi dechrau drafftio cynllun gweithredu ar gyfer 21/22 ac rydym yn bwriadu ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd ym mis Tachwedd 2021. Cynigir bod y newidiadau allweddol fel a ganlyn:
Ein nod yw cael ein cydnabod ymhlith y deg system iechyd orau ar draws y byd. Mae ein hymagwedd uchelgeisiol at gynaliadwyedd yn cyd-fynd â’r dyhead hwn. Mae llawer o waith i’w wneud cyn cyrraedd sector cyhoeddus sero-net erbyn 2030, ac rydym wedi dechrau arni. Mae gan bawb, boed i ba ran o’r Bwrdd Iechyd maent yn perthyn, ran i’w chwarae.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich syniadau a’ch prosiectau gwella ansawdd a fydd yn helpu BIP Caerdydd a’r Fro i ddod yn lle mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar i fyw a gweithio, yn ogystal ag unrhyw ddulliau arloesi y gallech fod wedi clywed amdanynt ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd wrth ddarparu gofal iechyd.
O ganlyniad i gamau gweithredu’r Bwrdd Iechyd, gobeithir y gellir gweld bod y sefydliad yn rhagori ar ei gyfrifoldebau gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar fwy na gofal iechyd yn unig, bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, fel sefydliad, yn endid gweithredol sy’n gwella’n barhaus, a bob amser yn anelu at fod yn well a pharhau i wneud gwahaniaeth nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer yfory, gan ddangos esiampl i genedlaethau’r dyfodol ei dilyn.
Os hoffech gysylltu â’r Tîm Cynaliadwyedd, anfonwch e-bost at news@wales.nhs.uk
Cardiff and Vale University Health Board’s 10-year transformation and innovation strategy.
– Home
– What We’re Doing
– Innovation Hub
– Our CAV Characters
– Contact Us