
Hyb Llesiant
Dwyrain y Fro
Dod â chyfleusterau gofal sylfaenol addas i’r diben i Ddinas Powys, Penarth a Sili.


Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod â Hyb Llesiant [dolen] i Ddwyrain y Fro, sy’n cwmpasu Dinas Powys, Penarth a Sili.

Y Cynnydd Hyd Yma
Byddai’r Hyb Llesiant arfaethedig yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a lles i drigolion Clwstwr Dwyrain y Fro. Byddai gwasanaethau’n cael eu darparu ar y cyd ar draws sefydliadau i hyrwyddo model gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl.
Bydd y Bwrdd Iechyd, cydweithwyr awdurdodau lleol a thrigolion yn datblygu cynlluniau ar y cyd i ddiwallu anghenion y gymuned ehangach cyn i gynnig Hyb Llesiant gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid.
Hoffem glywed eich barn am ein cynlluniau.
Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Cyhoedd
Digwyddiadau yn y Gorffennol
Sesiwn galw heibio - Pafiliwn Belle Vue
23 Hydref 2023: 3PM-7PM
Cyfarfod Cyhoeddus - Canolfan Hamdden Penarth
26 Mehefin 2023: 6PM-7:30PM