Llunio Ein Llesiant i’r Dyfodol

Strategaeth Deng Mlynedd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Ein cynllun hirdymor, lefel uchel ar gyfer gwella iechyd a lles y poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu, a gwella’r gwasanaethau a ddarparwn i bobl dros y degawd nesaf.

Clywed mwy a dweud eich dweud

Rydym yn gwahodd aelodau’r cyhoedd, cydweithwyr a rhanddeiliaid i roi adborth ar ein strategaeth.

Mae sawl ffordd o ymgysylltu yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael i chi:

Os oes gennych ddeng munud darllenwch grynodeb o’n strategaeth a rhowch eich safbwyntiau i ni.

bum munud ar hugain

Os oes gennych bum munud ar hugain darllenwch ein strategaeth lawn a rhowch adborth manwl.

awr

Dewch draw i un o'n digwyddiadau ar-lein neu wyneb yn wyneb

Os oes gennych awr neu fwy, y ffordd orau o glywed mwy am y strategaeth a rhoi adborth yw dod draw i un o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg ac ar-lein. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i glywed y cyd-destun, gofyn cwestiynau a rhoi eich safbwyntiau i aelodau o’n tîm Gweithredol a’n Bwrdd.

Helpu pobl i gadw’n iach, gofalu am bobl i wella

Gan fyfyrio ar bopeth yr ydym wedi’i ddysgu drwy’r pandemig, mae ‘Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol 2023 – 2033’ yn nodi ein huchelgais i adnewyddu ein ffocws ar fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy’n bodoli o fewn ein cymunedau a rhyngddynt, gan alluogi pobl i gadw’n iach, a darparu gwasanaethau rhagorol i’r rhai sydd eu hangen, pan fydd eu hangen arnynt.

Er mwyn llunio’r strategaeth hon, fe wnaethom wrando ar bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, ein cymunedau lleol, ein timau a’n partneriaid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth roi o’u hamser i ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddynt.

Rydym wedi adolygu’r adborth a nawr rydym yn gofyn i chi rannu eich safbwyntiau ar ein strategaeth arfaethedig unwaith eto.

Ward Manager - Paediatric Theatre - Noah's Ark Children's Hospital - UHW

Gan weithio gyda’n gilydd byddwn yn gwella iechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a sicrhau rhagoriaeth fel bod staff, cleifion a phoblogaethau’n cael y profiad a’r canlyniadau gorau.

Ein Gweledigaeth

Ein Gwerthoedd

Maent wrth wraidd popeth a wnawn.
Maen nhw’n adlewyrchu’r diwylliant rydyn ni eisiau bod yn rhan ohono ac yn arwain sut rydyn ni’n gweithio bob dydd.

Bod yn Garedig ac yn Ofalgar

Bod yn Barchus

I fod

Ymddiriedaeth ac Uniondeb

Cyfrifoldeb Persono

I gael

Rhoi pobl yn gyntaf

Byddwn yn sefydliad sy’n lle gwych i weithio, dysgu a derbyn gofal a lle byddwn yn gwrando ar ein cymunedau a’n cydweithwyr a’u grymuso

Darparu ansawdd rhagorol

Byddwn yn sefydliad sy’n ymrwymedig i ddysgu a gwella’n barhaus sy’n darparu’r cyngor, y mynediad, y profiad a’r canlyniadau gorau i’n holl gleifion a’n cymunedau

Darparu yn y mannau iawn

Bydd gofal yn cael ei ddarparu yn y lle iawn, mewn cyfleusterau sy’n addas i’r diben lle bynnag y bo modd, galluogi pobl i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt yn eu cartrefi eu hunain, neu'n agosach atynt

Gweithredu ar gyfer y dyfodol

Byddwn yn sicr bod ein gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu i sicrhau nad yw anghenion y presennol yn peryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol a’n bod yn manteisio’n llawn ar dechnolegau, triniaethau a thechnegau newydd i ddarparu’r cyngor gorau posibl a gofal cynaliadwy

Gweithio mewn partneriaethau

Byddwn yn datblygu cynlluniau iechyd a gofal integredig ar draws ein systemau i sicrhau bod ein modelau gofal yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion pwysig ein cymunedau lleol, rhanbarthol ac, ar gyfer rhai gwasanaethau, yn genedlaethol

Ein Hamcanion Allweddol