
Darparu
Ansawdd Rhagorol
Byddwn yn darparu gwasanaethau rhagorol sy’n deg, yn amserol ac yn ddiogel, lle mae pobl yn cael eu trin â charedigrwydd ac yn cael eu cefnogi i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwsig iddynt


Fel Bwrdd Iechyd byddwn yn darparu ansawdd rhagorol o ran gofal bob tro: gofal sydd wedi’i bersonoli, yn amserol, yn ddiogel, yn hygyrch ac yn effeithiol.
O’r gofal mwyaf cymhleth ar gyfer y rhai mwyaf difrifol wael hyd at ofal arferol sy’n atal ac yn diogelu rhag afiechyd a chlefydau, byddwn yn sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion yn unol â’r hyn sydd bwysicaf iddynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Byddwn yn gwneud hyn gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau ym maes iechyd, a lleihau gwahaniaethau annheg ac anghyfiawn y mae pobl yn eu hwynebu yng nghymunedau'r Bwrdd Iechyd.


Er mwyn sicrhau gofal rhagorol, byddwn yn sicrhau bod mynediad at wasanaethau yn adlewyrchu anghenion pobl fel ein bod yn lleihau nifer y blynyddoedd y bydd pobl yn byw mewn iechyd gwael a marwolaeth gynamserol y gellir ei atal, gan ganolbwyntio’n ddi-baid ar leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli yn ein cymunedau a rhyngddynt.
Ni all Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wneud y newidiadau hyn ar ei ben ei hun. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym maes gofal cymdeithasol a thai, y trydydd sector a chydweithwyr ehangach y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu gofal integredig i bobl gartref ac yn y gymuned fel eu bod yn cael eu cefnogi i fyw mor annibynnol â phosibl ac i reoli eu cyflwr eu hunain lle y gallant ac i gael diwedd oes sydd wedi’i gynllunio ac yn urddasol.
Yr anghydraddoldebau rydyn ni'n eu hwynebu:
Bwlch o ran Nifer y Blynyddoedd o Iechyd Da - 18 mlynedd i fenywod ac 14 i ddynion.
Mae 1/4 o bobl yn profi salwch meddwl yn ystod eu bywydau
Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng ein cymunedau lleiaf a mwyaf difreintiedig yn 8 mlynedd i fenywod a 9 mlynedd i ddynion