Amcangyfrifir bod 4% o holl nwyon tŷ gwydr y DU o ganlyniad i ofal iechyd.
Er bod gennym bobl frwdfrydig sydd wedi bod yn arloesi o safbwynt mabwysiadu arferion gofal iechyd cynaliadwy, rhaid i ni edrych ar bob agwedd ar ein gweithrediad fel system iechyd, a darparu gwelliannau. Gallai hynny olygu lleihau plastigau defnydd untro a ddefnyddir yn y maes gofal clinigol neu aildrefnu ein gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n cael effaith gadarnhaol ar ein cleifion yn ogystal â’r amgylchedd.
Mae ein cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd a’r Bwrdd yn frwdfrydig dros wella ein heffaith ar yr amgylchedd, felly mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, ac edrychwn ymlaen at roi camau pellach ar waith yn y dyfodol sy’n anelu at gyflawni nodau ac uchelgeisiau hyd yn oed yn fwy.
Edrychwch ar ein Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd sy’n nodi’r hyn yr hoffem ei gyflawni yn y tymor byr, a fydd yn sbardun i fynd ymhellach ac yn gyflymach, wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i gyflawni ein nodau Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol ac ail-ddarparu Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r cynllun gweithredu yn eang ac yn ceisio profi cysyniadau mewn gofal clinigol yn arbennig, sy’n gallu bod yn ddulliau braenaru ar gyfer datblygu ymhellach.