Ymgysylltu â ni
Mae gan y boblogaeth rôl hanfodol i'w chwarae yn y gwaith o ddylunio ein gwasanaethau yn y dyfodol. P'un a ydych yn aelod o'r cyhoedd, staff neu un o'n partneriaid rhanddeiliaid, mae eich profiadau o wasanaethau'n hynod o werthfawr wrth lunio cynlluniau at y dyfodol.

Rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori, y mae llawer ohono’n lleol i'n poblogaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Ar gyfer rhai o'n gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, rydym yn annog cyfranogiad ehangach.
Mae ein Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i wneud ein gweithgarwch ymgysylltu mor hygyrch â phosibl, os bydd angen cymorth neu ddeunyddiau ychwanegol arnoch i allu cymryd rhan yn unrhyw un o'n gweithgareddau, a anfonwch e-bost at engage.cav@wales.nhs.uk i gael sgwrs.


Hyb Llesiant Dwyrain y Fro

Llais
