Llunio Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol, Gyda'n Gilydd

Bydd y cynllun hwn yn gweithredu fel map ffordd ar gyfer sut y bydd y bwrdd iechyd yn darparu'r holl wasanaethau am y deng mlynedd nesaf.
Bydd y cynllun hwn yn gweithredu fel map ffordd ar gyfer sut y bydd y bwrdd iechyd yn darparu’r holl wasanaethau am y deng mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn cael ei gydgynhyrchu gyda’n cymunedau lleol, ac yn cael ei adeiladu ar werthoedd cynhwysiant, gonestrwydd a chysondeb.
Bydd y cynllun yn cael ei gynllunio i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gan ddefnyddio’r pum pwynt ffocws canlynol:
- Menywod a phobl wedi’u cofrestru’n fenywaidd adeg eu geni
- Iechyd Meddwl
- Gofal wedi’i Gynllunio
- Gofal Brys
- Gwasanaethau Arbenigol a Rhanbarthol

Pam mae angen y cynllun arnom?
Rydym yn gwybod bod y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd yn newid. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae pobl yn ymdrin â chyflyrau iechyd llawer mwy cymhleth. Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau yn gallu diwallu anghenion pawb, a'n bod yn gwneud y defnydd gorau o staff, adeiladau a thechnoleg.
Sut alla i gymryd rhan yn natblygiad y cynllun?
Rydym am roi cyfle i bawb sy’n cael mynediad at wasanaethau iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ein helpu i ddylunio’r cynllun. Os ydych chi am gymryd rhan, gallwch:
- Gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar bennod benodol o’r cynllun, neu ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd.
- Llenwch ein harolwg.
- Anfonwch eich adborth trwy e-bost neu ffoniwch ni.
- Gwrandewch ar ein sesiynau wedi’u recordio am y cynllun trwy ein gwefan, ac anfonwch eich sylwadau atom wedi hynny.
- Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol yr ydych chi’n meddwl y byddai’n hoffi cymryd rhan yn natblygiad y cynllun, anfonwch e-bost atom a gallwn drefnu i ymweld â chi.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn clywed lleisiau pawb o bob rhan o’n cymuned, felly cysylltwch â ni a’n helpu i greu cynllun sy’n diwallu eich anghenion.

Cwblhewch yr Arolwg
Anfonwch e-Bost Atom