
Cynllun Strategol i Fabanod, Plant a Phobl Ifanc
Sicrhau bod ein gwasanaethau yn addas ar gyfer yr ieuengaf yng Nghymru


Fel rhan o Llunio Ein Gwasanaethau Clinigol (2025-2035), hoffai’r Bwrdd Iechyd ddysgu beth sydd bwysicaf i chi am y gofal a gewch.
P’un a ydych, neu wedi bod, yn glaf yn ein gwasanaethau plant a phobl ifanc neu’n rhiant i rywun sydd wedi bod, hoffem glywed gennych. Rydym hefyd yn croesawu adborth gan gydweithwyr, rhanddeiliaid, a phobl a allai ddefnyddio’r gwasanaethau ar ryw adeg.


Wrth gwblhau’r arolwg hwn, meddyliwch am eich profiadau yn y gorffennol gyda’n gwasanaethau i fabanod, plant a phobl ifanc, neu beth hoffech chi ei weld ganddyn nhw.
Bydd eich adborth yn helpu i ddylunio dyfodol ein gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Atebwch yn onest.