
Cyflawni yn y
Mannau Iawn
Erbyn 2035 byddwn eisoes ar ein taith i ddarparu gofal yn y man iawn, mewn cyfleusterau sy’n addas i’r diben, sy’n hyblyg ac yn hyrwydd adferiad.


Erbyn 2035 byddwn eisoes ar ein taith i ddarparu gofal yn y man iawn, mewn cyfleusterau sy’n addas i’r diben, sy’n hyblyg ac yn hyrwydd adferiad.
Rydym yn gwybod bod ansawdd yr amgylcheddau yr ydym yn darparu gofal ynddynt yn gwneud gwahaniaeth i brofiad a chanlyniadau cleifion. Yn 2023, nid yw llawer o’n cyfleusterau yn addas i’r diben ac rydym yn gwybod bod amgylcheddau o ansawdd gwael yn arwain at ganlyniadau a phrofiad gwaeth i gleifion a’n cydweithwyr.


Er mwyn darparu gofal rhagorol, mae angen i ni ddarparu gwasanaethau yn y man iawn i ddiwallu anghenion unigolyn mewn cyfleusterau sy’n addas i’r diben:
- Bydd hyn yn cynnwys gofalu am bobl gartref gan ddefnyddio technoleg i fonitro iechyd a chael mynediad at y cymorth sydd ei angen, gan alluogi pobl i reoli eu gofal eu hunain.
- Byddwn yn darparu cymaint ag y gallwn yn lleol fel y gall pobl gael gafael ar gyngor, gofal a chymorth yn eu cymuned leol.
- Ein hamgylcheddau gofal yn sicrhau’r profiad ac adferiad gorau posib i gleifion ac yn darparu’r cyfleusterau y mae ein cydweithwyr eu hangen ar gyfer eu llesiant. Bydd ein hysbytai yn ‘ysbytai digidol’ lle mae systemau iechyd a gofal wedi’u cysylltu’n llawn ar draws llwybr y claf.