Creodd Llywodraeth Cymru Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015. Nod y ddeddf yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gosod tasg i 44 o Gyrff Cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae Cymru’n unigryw gan mai ni yw’r unig genedl yn y byd i gyflwyno deddf o’r fath. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig, “Yr hyn y mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y Byd yn ei wneud yfory.”
Mae’r ddeddf yn rhoi saith nod rhyng-gysylltiedig ar waith i sicrhau bod pob sefydliad sydd ynghlwm wrth hyn yn gweithio tuag at y nod cyffredin o greu’r Gymru rydyn ni i gyd am ei gweld ac y gallwn fod yn falch ohoni.
Mae’r Ddeddf wedi gosod dyletswydd arnom i ddiffinio a chyflawni ein hamcanion llesiant ein hunain a fydd yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni’r saith nod llesiant uchod.
Fel Bwrdd Iechyd, gwnaethom ymateb i hyn drwy greu’r Strategaeth Llunio Ein Lles ar gyfer y Dyfodol, a gafodd ei chreu yn sgil ymgynghori â chleifion, y cyhoedd, staff iechyd a phartneriaid eraill.
Y Saith Nod Llesiant
Er mwyn sicrhau ein bod oll yn gweithio tuag at yr un pwrpas, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod saith nod lles. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus a restrir weithio i gyflawni’r holl nodau, nid un neu ddau yn unig.
Cymru Lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod y cyfyngiadau ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd), ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n creu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan alluogi pobl i fanteisio ar y cyfoeth a grëir trwy sicrhau gwaith boddhaol.
Cymru Wydn
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach sy’n cynnal gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
Cymru Iachach
Cymdeithas sy’n gwneud y gorau o les corfforol a meddyliol pobl ac sy’n deall pa ddewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i’w hiechyd yn y dyfodol.
Cymru Fwy Cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i wireddu eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
A Wales of Vibrant Culture and Welsh Language
A society that promotes and protects culture, heritage and the Welsh language, and which encourages people to participate in the arts, sports and recreation.
A Wales of Cohesive Communities
Attractive, viable, sage and well-connected communities.
A Globally Responsible Wales
A nation which, when doing anything to improve the economic, social, environmental and cultural well-being of Wales, takes account of whether doing such a thing may make a positive contribution to global well-being.
Y Pum Ffordd o Weithio
Ar ben gweithio tuag at ein hamcanion lles, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni weithio “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy”.
Mewn geiriau eraill, mae angen inni sicrhau bod ein gweithredoedd heddiw yn bodloni gofynion y presennol heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae 5 ffordd gynaliadwy o weithio yn diffinio’r egwyddor hon, sef:
Ein Hamcanion Lles
Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro eisoes yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod llawer i’w wneud o hyd…
Rydym yn gofyn i bawb feddwl am sut y gallent gyfrannu at y pum ffordd o weithio i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynaliadwy, ac yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad pobl heddiw ac yn y dyfodol.
Nod y ddeddf yw gwella’r potensial i wella iechyd a lles mewn ardaloedd lleol; a gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector i gryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd a lles, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol
Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn;
Rydyn ni’n gweithredu agwedd fwy cydgysylltiedig er mwyn creu’r Gymru rydyn ni am ei gweld.
Gall pawb o fewn y Bwrdd Iechyd gyfrannu at weithredu heddiw er gwell yfory yn ein gweithredoedd, yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith.
Cysylltu â ni
Os hoffech drafod eich syniadau, prosiectau, neu gysylltu â ni, cysylltwch â Deborah Page – Deborah.Page2@wales.nhs.uk a Louise Knott – Louise.Knott@wales.nhs.uk
Diben Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
O fewn y Bwrdd Iechyd ceir Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a diben y grŵp hwn yw dod â chydlyniant i waith y Bwrdd Iechyd yn y maes hwn, gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni rhwymedigaethau statudol cyrff cyhoeddus fel yr amlinellir yn Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol 2 (canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015).
Bydd y Grŵp hefyd yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol i waith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Sustainability and sustainable development is most commonly described as, ‘development that meets the needs and aspirations of the present without compromising the ability of future generations to meet their own needs’ (World Commission on Environment and Development 1987).
Why take action now?
There is incontrovertible evidence from the scientific community that climate change is taking place due to man-made emissions of greenhouse gases. The impact of climate change is visible already – extreme weather, rising sea levels, mass species loss and extinction – and is impacting on our daily lives.
Like many countries around the world, the Welsh Government has declared a climate emergency and has been taking action as a globally responsible Wales for many years.
In an emergency, we have to behave and act differently and swiftly. Therefore, if the Health Board is to meet and exceed the existing requirements, we need to take action urgently to accelerate reduction in our carbon impact, and take other action to embed sustainable development into everything that we do.
O ganlyniad i gamau gweithredu’r Bwrdd Iechyd, gobeithir y gellir gweld bod y sefydliad yn rhagori ar ei gyfrifoldebau gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar fwy na gofal iechyd yn unig, bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, fel sefydliad, yn endid gweithredol sy’n gwella’n barhaus, a bob amser yn anelu at fod yn well a pharhau i wneud gwahaniaeth nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer yfory, gan ddangos esiampl i genedlaethau’r dyfodol ei dilyn.
Os hoffech gysylltu â’r Tîm Cynaliadwyedd, anfonwch e-bost at news@wales.nhs.uk
Cardiff and Vale University Health Board’s 10-year transformation and innovation strategy.
– Home
– What We’re Doing
– Innovation Hub
– Our CAV Characters
– Contact Us