Gan fyfyrio ar bopeth yr ydym wedi’i ddysgu drwy’r pandemig, mae ‘Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol 2023 – 2033’ yn nodi ein huchelgais i adnewyddu ein ffocws ar fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd dwfn sy’n bodoli o fewn ein cymunedau a rhyngddynt, gan alluogi pobl i gadw’n iach, a darparu gwasanaethau rhagorol i’r rhai sydd eu hangen, pan fydd eu hangen arnynt.
Er mwyn llunio’r strategaeth hon, fe wnaethom wrando ar bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, ein cymunedau lleol, ein timau a’n partneriaid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth roi o’u hamser i ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddynt.
Rydym wedi adolygu’r adborth a nawr rydym yn gofyn i chi rannu eich safbwyntiau ar ein strategaeth arfaethedig unwaith eto.